Lamentations 5

Cerdd 5 – Gweddi am drugaredd

Pobl Jerwsalem yn gweddïo am drugaredd. 1Arglwydd, cofia beth sydd wedi digwydd i ni.
Edrycha arnon ni yn ein cywilydd!
2Mae'n gwlad
5:2 gwlad Hebraeg, “etifeddiaeth”, sy'n cyfeirio at y wlad roddodd Duw i Abraham – gw. Jeremeia 2:7; Deuteronomium 26:1
wedi ei rhoi yn nwylo'r gelyn,
a'n cartrefi wedi eu meddiannu gan bobl estron.
3Dŷn ni fel plant amddifad, heb dadau,
ac mae ein mamau fel gwragedd gweddwon.
4Rhaid i ni brynu dŵr i'w yfed,
a thalu am y coed tân dŷn ni'n ei gasglu.
5Dŷn ni'n cael ein gyrru fel anifeiliaid â iau ar eu gwarrau;
wedi blino'n lân, ac yn cael dim gorffwys.
6Gwnaethon gytundeb gyda'r Aifft ac Asyria,
er mwyn cael digon o fwyd i fyw.
7Roedd ein hynafiaid, sy'n farw bellach, wedi pechu;
a dŷn ni'n diodde canlyniadau eu drygioni nhw. b
8Mae caethweision yn feistri arnon ni,
a does neb yn gallu'n hachub ni o'u gafael nhw.
9Dŷn ni'n gorfod mentro'n bywydau i nôl bwyd,
am fod lladron arfog yn cuddio yng nghefn gwlad.
10Mae newyn yn achosi i ni ddiodde o dwymyn;
mae ein croen yn teimlo'n boeth fel ffwrn.
11Mae'r gwragedd yn cael eu treisio yn Seion,
a'r merched ifanc yn nhrefi Jwda.
12Mae'r gelyn wedi crogi ein harweinwyr,
a cham-drin y rhai hynaf ohonynt.
13Mae'r dynion ifanc yn cael eu gorfodi i weithio'r maen melin,
a'r bechgyn yn baglu wrth gario llwyth o goed.
14Dydy'r arweinwyr hŷn ddim yn cyfarfod wrth giât y ddinas,
ac mae'r bechgyn ifanc wedi stopio canu eu cerddoriaeth.
15Mae pob llawenydd wedi diflannu;
yn lle dawnsio dŷn ni'n galaru.
16Mae'r dathlu wedi dod i ben.
Gwae ni, dŷn ni wedi pechu!
17Dŷn ni'n teimlo'n sâl, ac wedi colli pob hyder;
mae'r sbarc wedi diflannu o'n llygaid,
18am fod Mynydd Seion yn gorwedd yn wag;
dim ond siacaliaid sydd yno'n prowla.
19Ond rwyt ti, Arglwydd, yn teyrnasu am byth;
mae dy orsedd yn para ar hyd y cenedlaethau.
20Pam wyt ti wedi anghofio amdanon ni?
Pam wyt ti wedi troi cefn arnon ni mor hir?
21Tynn ni'n ôl atat dy hun, Arglwydd, i ni droi nôl.
Gwna ni eto fel roedden ni ers talwm.
22Neu wyt ti wedi'n gwrthod ni'n llwyr?
Wyt ti wedi digio'n lân gyda ni?
Copyright information for CYM